Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:02 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Ruth Hussey, Chief Medical Officer Dr Grant Robinson, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2 Gofal heb ei drefnu: Ymateb gan Lywodraeth Cymru
2.1 Holodd y Pwyllgor David Sissling, y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Ruth Hussey, y Prif Swyddog Meddygol, a'r Dr Grant Robinson, yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu, Llywodraeth Cymru, ynghylch Gofal heb ei drefnu.
Camau gweithredu:
Cytunodd David Sissling i:
· Rannu'r rhestr wirio a ddefnyddir wrth archwilio gofal sylfaenol
· Ymchwilio ymhellach i'r ganran o feddygfeydd sy'n cynnig apwyntiadau ar ôl 17.00,a pha mor aml y digwydd hynny.
· Gwirio'r diffiniad o 'heb ddod i'r apwyntiad'
· Anfon nodyn am yr amserlen ar gyfer gweithredu'r gwasanaeth 111, a darparu gwybodaeth ddiweddar am y gwasanaeth yn rheolaidd.
· Anfon nodyn am ffigurau'r Ddeoniaeth ar gyfer hyfforddi meddygon teulu.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (14 Tachwedd 2013)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
9.1 Derbyniwyd y cynnig bod eitemau 4, 5, 6, 7 ac 8 ar yr agenda yn cael eu trafod yn breifat, ynghyd â'r papur ar gyfer eitem 10.
5 Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
4.1 Nodwyd yr ymatebion, a dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol wrth y Pwyllgor bod Swyddfa Archwilio Cymru yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar y mater hwn. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn pan fydd canlyniadau'r gwaith hwnnw ar gael.
6 Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
5.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w rannu gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
7 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
6.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i wahodd yr Athro White i'r Pwyllgor i drafod eu pryderon.
8 Argyfyngau Sifil yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
7.1 Roedd y Pwyllgor yn fodlon â'r ymateb boddhaol gan Lywodraeth Cymru.
9 Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
8.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w rannu gyda'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
10 Cyflog Uwch-reolwyr: Trafod y papur dadansoddi
10.1 Nododd y Pwyllgor y memorandwm drafft gan Swyddfa Archwilio Cymru, a bod angen gwneud rhagor o waith ar y papur cyn y caiff ei gyhoeddi.
10.2 Trafododd y Pwyllgor sut yr oedd yn bwriadu gweithio ar yr ymchwiliad hwn.